Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
17 Mawrth 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11186
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-12. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Ni ofynnwyd cwestiwn 1. Gofynnwyd cwestiynau 2-4.
4 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gofyn i'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd Bil heddlu, troseddu, dedfrydu a llysoedd y DU yn ei chael ar ddiogelwch menywod yng Nghymru?
5 Datganiadau 90 Eiliad
Ni chyflwynwyd unrhyw ddatganiadau 90 eiliad.
6 Cynnig i benodi Comisiynydd Safonau y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.32
NDM7654 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Penodi'r Comisiynydd Safonau a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021 ("yr adroddiad").
2. O dan adran 1(2) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, yn penodi Douglas Bain CBE TD yn Gomisiynydd Safonau y Senedd o dan y Mesur hwnnw, am gyfnod o chwe blynedd gan ddechrau ar 1 Ebrill 2021.
3. O dan baragraffau 1 a 2 o'r Atodlen i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009:
a) yn cytuno ar becyn taliadau'r Comisiynydd, yn unol â pharagraff 1(b) o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad;
b) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, y gwaith o wneud penderfyniadau ynghylch addasu pecyn taliadau’r Comisiynydd yn flynyddol i Glerc y Senedd; ac
c) yn dirprwyo, yn unol â pharagraff 2 o'r Atodlen i'r Mesur hwnnw, y gwaith o bennu’r holl delerau eraill y mae penodiad o'r fath i gael effaith arnynt i Glerc y Senedd.
Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Penodi’r Comisiynydd Safonau
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru
Dechreuodd yr eitem am 15.34
NDM7653 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Gweithio o bell: Y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2021.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl ar ddeiseb 'P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru'
Dechreuodd yr eitem am 15.59
NDM7652 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru’ a gasglodd 5,386 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl Plaid Cymru - Adolygiad o Gyflogau'r GIG
Dechreuodd yr eitem am 16.30
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7655 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG yn cefnogi galwadau penodol yr undebau llafur a chyrff eraill sy'n cynrychioli staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am godiad cyflog teg a haeddiannol i adlewyrchu'r aberth a wnaed yn ystod y pandemig.
3. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddarparu setliad cyflog a chadw diwygiedig ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys isafswm gwarantedig o £10 yr awr i weithwyr gofal i ddod â'r gwahaniaeth presennol rhwng iechyd a gofal i ben.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
4 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod cyflogau'r GIG wedi'u datganoli ac yn croesawu'r cynnydd ychwanegol o £2.1 biliwn yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy’n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu.
Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector.
Yn cydnabod bod un o themâu allweddol "Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol" yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg.
Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
5 |
19 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod Gwelliant 2 wedi ei dderbyn, cafodd Gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7655 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn condemnio argymhelliad Llywodraeth y DU i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG am godiad cyflog cwbl annigonol o 1 y cant i nyrsys a staff eraill y GIG a fyddai'n golygu toriad mewn termau real yn eu cyflogau.
2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'r safbwynt gwahanol i undeb llafur y GIG o ran yr hyn y credant sy’n godiad cyflog teg a fforddiadwy ac wedi cyflwyno sylwadau pellach i Gorff Adolygu Cyflogau'r GIG i gadarnhau nad oes cap mympwyol wedi'i bennu.
3. Yn credu y dylai'r cyrff adolygu cyflogau adrodd yn annibynnol ar dâl sy'n deg ac yn fforddiadwy.
4. Yn cydnabod bod GIG Cymru yn talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r Cyflog Byw Gwirioneddol fel lleiafswm cyfradd gyflog i weithwyr gofal cymdeithasol ac wedi sefydlu'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol sy'n edrych ar sut y gellir gwella telerau ac amodau yn y sector.
5. Yn cydnabod bod un o themâu allweddol "Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol" yn canolbwyntio ar wobrwyo a chydnabod staff yn deg.
Cymru Iachach: Ein Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
2 |
20 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
10 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.01 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.06.
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.08
NDM7651 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Gwella iechyd meddwl, ar ôl y pandemig.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.27
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Mawrth 2021